CURRENT
Artist/Writer commission
£1000 + £500 travel
July - November 2024

ArcadeCampfa is seeking to commission an artist/writer to undertake research around artist-run programming in Wales. The commission is for us to better connect with artists across Wales, to build capacity and connectedness; and to learn from different structures and models of work.

We would like to work with an artist/writer who is interested in making a creative response to the conversations and information gathered. We anticipate this to be four days work at £250 a day, including some travel across Wales.

We refer to artist-run programming as that led by artists, outside of institutional or commercial settings. We are interested in projects and spaces that support artists with less access to traditional pathways into the arts, such as gallery representation.

We are interested in finding out more about

  • Artist groups and collectives working in partnership with councils and civic spaces
  • Artist groups and collectives working with public spaces (billboards, empty shop units, places of worship, parks etc)
  • Artist-run formal and informal networks
  • Artist-run groups and collectives with an interest in non-traditional arts audiences
  • Artist-run groups with an interest in social change

ArcadeCampfa is an artist-run organisation interested in art outside of gallery spaces. For 14 years we worked out of a shopping centre unit in central Cardiff, which closed in May 2023. In 2024 we are commissioning into civic spaces such as libraries and health settings, as well as continuing to commission digital residencies. Our current project, Twilight Barking, is working with therapy dogs in an adult mental health unit, culminating in a show of the artwork made by the patients, staff and artists.

To apply please send a short description (300 words) on how you would approach the brief, including your creative response to the information you collect, alongside up to two links / pieces of previous work.

Deadline for applications is 2.8.24

︎ info@arcade-campfa.org
Comisiwn Artist/Sgwennwr
£1000 + £500 i deithio
Gorffennaf – Tachwedd 2024

Mae ArcadeCampfa yn gobeithio comisiynu artist/sgwennwr i ymgymryd ag ymchwil ynglŷn â’r modd y mae artistiaid yn rhaglenni pethau yng Nghymru. Bwriad y comisiwn yw creu gwell cysylltiad rhyngom ni ag artistiaid ledled Cymru, er mwyn adeiladu capasiti a chyd-gysylltiad; ac i ddysgu am wahanol strwythurau a modelau gwaith.  

Hoffem weithio gydag artist/sgwennwr sydd â diddordeb mewn creu ymateb creadigol i’r sgyrsiau a’r wybodaeth a gasglwn. Rydym yn disgwyl y mai pedwar diwrnod o waith fydd hwn, ar £250 y diwrnod, gan gynnwys rhywfaint o deithio ar draws Cymru.

Rydym yn cyfeirio at raglenni sy’n cael eu harwain gan artistiaid fel y rheiny sy’n cael eu harwain gan artistiaid tu hwnt i leoliadau sefydliadol neu fasnachol. Mae gennym ddiddordeb mewn projectau a gofodau sy’n cefnogi artistiaid sydd â llai o fynediad at lwybrau traddodiadol i mewn i’r celfyddydau, megis cynrychiolaeth oriel.

Mae gennym ddiddordeb dysgu rhagor am

  • Grwpiau artistiaid a chasglebau sy’n gweithio mewn partneriaeth â chyngorau a gofodau dinesig
  • Grwpiau artistiaid a chasglebau sy’n gweithio gyda gofodau cyhoeddus (byrddau posteri, unedau siopau gwag, llefydd addoli, parciau ayyb)
  • Rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol sy’n cael eu harwain gan artistiaid
  • Grwpiau a chasglebau sy’n cael eu harwain gan artistiaid â diddordeb mewn cynulleidfaoedd nad ydynt yn dilyn y celfyddydau yn draddodiadol
  • Grwpiau sy’n cael eu harwain gan artistiaid â diddordeb mewn newid cymdeithasol

Sefydliad sy’n cael ei arwain gan artistiaid yw ArcadeCampfa â diddordeb mewn celf tu allan i ofodau’r oriel. Buom yn gweithio mewn uned canolfan siopa am 14 mlynedd yng nghanol Caerdydd, a gaeodd ym mis Mai 2023. Yn 2024 rydym yn comisiynu artistiaid i weithio mewn gofodau cyhoeddus megis llyfrgelloedd a lleoliadau iechyd, ynghyd â pharhau i gomisiynu preswylfeydd digidol. Mae ein project presennol, Cyfarth Cyfnos, yn gweithio gyda chŵn therapi mewn uned iechyd meddwl oedolion. Penllanw’r project fydd sioe o weithiau celf a wnaed gan y cleifion, staff ac artistiaid.

I ymgeisio anfonwch ddisgrifiad byr (300 gair) ynglŷn â sut fyddech yn mynd i’r afael â’r briff, gan gynnwys eich ymateb creadigol i’r wybodaeth y byddwch yn ei gasglu, ynghyd â dau ddolen / darn o waith blaenorol.

Y dyddiad cau i ymgeisio yw 2.8.24

︎ info@arcade-campfa.org
CURRENT
Library residency commission
£2000 + materials
July - November 2024
Wales-wide

ArcadeCampfa is seeking to commission two artists to undertake residencies within a library or similar civic space.

We are looking for artists who have strong connections to their local library or civic space, whether this is through their research, art practice, or everyday life, and who would like to spend some concentrated time exploring or expanding their ideas.

Having moved out of our hyper-public shopping centre unit in 2023, we are using this year to test ideas around how and where art can exist. We have identified libraries as some of the few essential public spaces available for knowledge exchange, learning, identity and community-building, and democratic access to resources. They are places for belonging and refuge, often a necessary point of contact for people who are isolated. 

There are no expected outcomes from the residencies, although we welcome exhibitions or sharing elements that fit with the proposal. This includes screenings, interventions, talks, performances, printed outcomes, displays etc.

Please note we have not identified the libraries we would be working with, and this is a connection we would build alongside the commissioned artists.

This open call is Wales-wide. ArcadeCampfa is based in Cardiff, so if you are based elsewhere please be aware our support will be mostly online.

To apply please send 300 words on how you would approach the residency, with information or links to two previous projects. 

Deadline for applications is 2.8.24

︎ info@arcade-campfa.org
Comisiwn preswyliad llyfrgell
£2000 + deunyddiau
Gorffennaf – Tachwedd 2024
Cymru gyfan

Mae ArcadeCampfa yn gobeithio comisiynu dau artist i ymgymryd â phreswyliad o fewn llyfrgell neu ofod cyhoeddus tebyg.

Rydym yn chwilio am artistiaid gyda chysylltiadau cryf gyda’u llyfrgell neu ofod cyhoeddus lleol, p’un ai fod hwn drwy gyfrwng ei hymchwil, ymarfer celf, neu fywyd bob dydd, ac y byddai’n hoffi treulio amser penodol yn archwilio neu ehangu ei syniadau.

A ninnau wedi symud allan o’n huned hynod-gyhoeddus mewn canolfan siopa yn 2023, rydym yn defnyddio’r flwyddyn hon i dreialu syniadau’n ymwneud â sut a ble all celf fodoli. Rydym wedi adnabod llyfrgelloedd fel un o’r prin ofodau cyhoeddus hanfodol sydd ar gael ar gyfer rhannu gwybodaeth, dysgu, adeiladu cymuned a hunaniaeth, a sicrhau mynediad democrataidd at adnoddau. Maen nhw’n llefydd ar gyfer perthyn a llochesu, gan weithredu fel angor angenrheidiol ar gyfer pobl sydd wedi eu hynysu.

Nid oes disgwyliadau pendant ar gyfer y preswyliadau, er ein bod yn croesawu arddangosfeydd neu elfennau o rannu sy’n gweddu gyda’r cais.

Gall hyn dynnwys dangosiadau ffilm, ymyrriadau, sgyrsiau, perfformiadau, deunydd wedi ei argraffu, arddangosiadau ayyb.

Noder nad ydym wedi dewis y llyfrgelloedd y byddem yn gweithio ar y cyd â nhw eto, a byddai hyn yn gysylltiad y byddem yn ei adeiladu ar y cyd â’r artist a gomisiynwyd.

Mae’r galwad agored hwn yn agored i Gymru gyfan. Mae ArcadeCampfa wedi ein lleoli yng Nghaerdydd, felly os ydych yn byw tu allan i Gaerdydd nodwch mai dros y wê y byddwn yn gallu cynnig cefnogaeth yn bennaf.  

Er mwyn ymgeisio anfonwch 300 gair ynglŷn â sut y byddech yn fframio’r preswyliad, gyda gwybodaeth neu ddolenni at ddau brosiect blaenorol.

Y dyddiad cau i ymgeisio yw 2.8.24

︎ info@arcade-campfa.org
CURRENT
Risograph residency
5 days @ £750 + materials
Access Risograph and studio space

ArcadeCampfa is pleased to offer a residency with access to Biscuits Press Risograph.

We are looking to commission an artist with an interest in Risograph* printmaking, whose research can include but is not limited to:

  • Community voice
  • The history of poster-making
  • Zines
  • Posters
  • Comics
  • Artists’ books and multiples

The commission will include five days of access to Biscuits Press Risograph in Roath, Cardiff, and a materials budget. This can be five consecutive days, or split over a longer period of time. The Risograph is in a shared space, so the timeframe would be negotiable with other users.

Applicants must be within travelling distance, as there is no associated travel or accommodation costs.

To apply please send 300 words on how you would approach the residency, with information or links to two previous projects.

Deadline for applications is 2.8.24

* A Risograph, or Riso for short, is a digital stencil duplicator. The prints look similar to screenprints but they come from a machine that looks like a photocopier.

︎ info@arcade-campfa.org
Preswyliad Risograph
5 diwrnod @ £750 + deunyddiau
Mynediad at Risograph a gofod stiwdio

Mae ArcadeCampfa yn falch o gynnig preswyliad gyda Risograph Gwasg Biscuits.  

Rydym yn awyddus i gomisiynu artist gyda diddordeb mewn argraffu Riso*. Efallai bydd gennych ddiddordeb archwilio ymysg pethau eraill:

  • Llais cymunedol
  • Hanes creu posteri
  • Zines
  • Posteri
  • Comics
  • Llyfrau Artistiaid a lluosogion

Bydd y comisiwn yn cynnwys pum niwrnod o fynediad at Risograph Gwasg Biscuits yn Y Rhath, Caerdydd, a chyllideb deunyddiau. Gall hwn fod dros bump diwrnod yn olynol, neu wedi ei rannu dros gyfnod hirach o amser. Mae’r Risograph mewn gofod sy’n cael ei rannu, felly dylid trafod eich amserlen gyda defnyddwyr eraill.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod o fewn pellter teithio i’r Rhath, am nad oes costau llety na theithio yn gysylltiedig â’r comisiwn.

Er mwyn ymgeisio anfonwch 300 gair ynglŷn â sut y byddech yn fframio’r preswyliad, gyda gwybodaeth neu ddolenni at ddau brosiect blaenorol.

Y dyddiad cau i ymgeisio yw 2.8.24

*Dyblygydd stensil digidol yw Risograph, neu Riso. Mae’r printiau yn ymdebygu i argraffiadau sgrîn ond maen nhw’n dod o beiriant sy’n edrych fel llungopïydd.

︎ info@arcade-campfa.org
PAST Online residency open call – Deadline Friday 16 February 2024.

ArcadeCampfa is pleased to announce two online residency opportunities. We are inviting artists with an interest in showing or developing work for the online space to apply for residencies lasting two - four weeks.
These opportunities are open to people living and working in, or with a strong connection to Wales. We particularly welcome applications from people who face barriers to accessing the arts, through economic or social circumstances.
We also welcome applications from collaborations, please send us a single application outlining your interest.
Previous residencies have included film, performance illustration, live streaming - anything that works within an online context. We also welcome experimental pieces or work in progress.
We offer a fee of £500, technical and marketing support.

︎ To apply please follow this link.


Artistiaid preswyl ar-lein – Dyddiad cau dydd Gwener 16 o Chwefror.

Mae ArcadeCampfa yn falch o gyflwyno dau gyfle preswyl ar-lein . ‘Dyn ni’n gwahodd artistiaid gyda diddordeb mewn dangos neu ddatblygu gwaith ar gyfery gofod ar-lein i ymgeisio ar gyfer y preswyliadau fydd yn para pythefnos – pedair wythnos.
Mae’r cyfleoedd hyn yn agored i bobl sy’n byw neu sydd â chysylltiad cryf â Chymru. Rydym yn estyn croeso arbennig i’r rheiny sy’n wynebu rhwystrau mynediad i’r celfyddydau o ganlyniad i sefyllfaoedd economeg neu gymdeithasol.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan gydweithrediadau. Anfonwch un cais yn amlinellu eich diddordeb.
Bu preswyliadau'r gorffennol yn cynnwys ffilm, perfformiad, darlunio, ffrydio byw – unrhyw beth sy’n gweithio â chyd-destun ar-lein. ‘Dyn ni hefyd yn croesawu darnau arbrofol neu waith ar y gweill.
Rydym yn cynnig ffi o £500, cymorth technegol a marchnata.

︎ I ymgeisio dilynwch y ddolen yma os gwelwch yn dda.

PAST ArcadeCampfa and Spit & Sawdust are pleased to announce their new 24 hour residency opportunity, available to Wales based artists who studied towards or graduated in a Wales based Bachelor of Art degree in the years 2019-2023.

We are inviting artists to participate in a paid 24 hour residency, supported by ArcadeCampfa and Spit & Sawdust. The residency will take place at the unique environment of Spit & Sawdust skatepark, with uncommon access to the interior and exterior public spaces, as the park will be closed.

The residency will culminate in a public sharing event at the end of the 24 hour period.

Taking place 3th to 4th September, 5 artists will be selected from applications, which builds on previous 24 hour residencies taking place at Spit & Sawdust in 2015 and 2018 - more info here.

We particularly welcome applications from people who face barriers to accessing the arts, through economic or social circumstances. We also welcome applications from collaborations, please send us a single application outlining your interest.

Please visit spitandsawdust.co.uk and arcade-campfa.org for further information about our respective and collaborative creative programmes.





Successful applicants will receive a fee of £250, technical and marketing support. There is an additional budget for materials, to be shared amongst all artists and all refreshments for the duration of the residency will be provided by ArcadeCampfa and Spit & Sawdust. Additional support for travel and any accommodation required is available by arrangement.  

To apply please follow this link:

︎ 24 Hour residency application form

The deadline is midnight Sunday 20th August.



Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn ffi o £250 a chymorth technegol a marchnata. Mae cyllideb ychwanegol ar gyfer deunyddiau, i’w rhannu ymysg yr artistiaid a bydd holl luniaeth yn ystod y preswyliad yn cael ei ddarparu gan ArcadeCampfa a Spit & Sawdust.

Bydd cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer teithio ac unrhyw lety gofynnol ar gael trwy drefniant.

︎ Ffurflen gais preswyliad 24 awr

I ymgeisio, dilynwch y ddolen hon. Dyddiad cau yw hanner nos, dydd Sul 20 Awst.

Mae ArcadeCampfa a Spit & Sawdust yn falch i gyhoeddi eu cyfle preswyl 24 awr newydd sydd ar gael i artistiaid wedi eu lleoli yng Nghymru a astudiodd neu a raddiodd gyda gradd Baglor Celf yng Nghymru yn y blynyddoedd 2019 - 2023.  

Rydym yn gwahodd artistiaid i gymryd rhan mewn preswyliad 24 awr gyda thâl, gyda chefnogaeth ArcadeCampfa a Spit & Sawdust. Bydd y preswyliad yn digwydd mewn lleoliad unigryw, sef parc sglefrio Spit & Sawdust, gyda mynediad arbennig i ofodau cyhoeddus y tu mewn a thu allan, gan fydd y parc ar gau.

Bydd y preswyliad yn darfod gyda digwyddiad rhannu cyhoeddus ar ddiwedd y cyfnod 24 awr.

Yn digwydd rhwng 3 a 4 o fis Medi, bydd 5 artist yn cael eu dethol o blith ceisiadau, sy’n adeiladu ar breswyliadau 24 awr blaenorol a gynhaliwyd yn Spit & Sawdust yn 2015 a 2018 - mwy o wybodaeth yma.

Yn arbennig, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n wynebu rhwystrau mynediad i’r celfyddydau drwy amgylchiadau economaidd neu gymdeithasol. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan gydweithrediadau, anfonwch un cais yn amlinellu eich diddordeb os gwelwch yn dda.

Ewch i wefannau spitandsawdust.co.uk a arcade-campfa.org am fwy o wybodaeth ynglŷn â’n rhaglenni creadigol unigol a chydweithredol.


PAST ArcadeCampfa is pleased to announce two online residency opportunities. We are inviting artists with an interest in showing or developing work for the online space to apply for residencies in Summer 2023 lasting two - four weeks.

These opportunities are open to people living and working in, or with a strong connection to Wales. We particularly welcome applications from people who face barriers to accessing the arts, through economic or social circumstances.

We also welcome applications from collaborations, please send us a single application outlining your interest.

Previous residencies have included film, performance illustration, live streaming - anything that works within an online context. We also welcome experimental pieces or work in progress.

We offer a fee of £500, technical and marketing support.

︎ To apply please follow this link.

The deadline is 24 May 2023.






 



Mae ArcadeCampfa yn falch o gyflwyno dau gyfle preswyl ar-lein . ‘Dyn ni’n gwahodd artistiaid gyda diddordeb mewn dangos neu ddatblygu gwaith ar gyfery gofod ar-lein i ymgeisio ar gyfer y preswyliadau yn ystod haf 2023 fydd yn para pythefnos – pedair wythnos.

Mae’r cyfleoedd hyn yn agored i bobl sy’n byw neu sydd â chysylltiad cryf â Chymru. Rydym yn estyn croeso arbennig i’r rheiny sy’n wynebu rhwystrau mynediad i’r celfyddydau o ganlyniad i sefyllfaoedd economeg neu gymdeithasol.

Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan gydweithrediadau. Anfonwch un cais yn amlinellu eich diddordeb.

Bu preswyliadau'r gorffennol yn cynnwys ffilm, perfformiad, darlunio, ffrydio byw – unrhyw beth sy’n gweithio â chyd-destun ar-lein. ‘Dyn ni hefyd yn croesawu darnau arbrofol neu waith ar y gweill.

Rydym yn cynnig ffi o £500, cymorth technegol a marchnata.

︎ I ymgeisio dilynwch y ddolen yma os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau yw 24 o Fai 2023.